medium_size__3_colour__up_to_20cm_288

 

Yn dilyn lansiad cynllun “Twristiaeth Gynaliadwy ym Miosffer Dyfi” fis Tachwedd y llynedd mae nifer dda o fusnesau wedi dangos diddordeb yn y cynllun Green Tourism a’r cyngor ar arbed ynni.

Mae hwn yn gynnig i fusnesau Gogledd Ceredigion yn unig, cysylltwch yn fuan i beidio colli cyfle!

Dros y misoedd nesaf byddwn yn trafod gyda grwpiau lleol er mwyn datblygu cynlluniau marchnata ar cyd, a’r rhain yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sectorau lletygarwch, bwytai, cynhyrchwyr a threftadaeth leol. Y bwriad ydy cael pethau yn eu lle erbyn dechrau’r tymor ymwelwyr eleni. Os hoffech fod yn rhan o’r gweithgareddau dros fisoedd y gaeaf beth am gysylltu â ni a dysgu rhagor am;

Ymweliadau rhad ac am ddim gan gynghorydd twristiaeth gwyrdd

·         Y gostyngiad sydd ar gael i ymuno â’r Green Tourism Business Scheme

·         Cynlluniau i gyd-farchnata busensau ardal y Biosffer

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Gwawr ar 01654 703 965 neu gwawr@ecodyfi.org.uk

 

 

 

 biosffer dyfi facebook page Hoffwch ni ar facebook

biosffer dyfi twitter feed Dilynwch ein ffrwd trydar