Ymchwil ym Biosffer Dyfi

Mae Partneriaeth Biosffer Dyfi wedi sefydlu is-grŵp Ymchwil. Y gobaith yw y gellir llywio rhyngweithiad rhwng academyddion a’r gymuned, hyrwyddo cydweithio a hybu ymchwil sy’n berthnasol i weledigaeth y Biosffer.

Mae’n faes mor ddiddorol, gall pobl gael eu gorlwytho gan sylw oddi wrth ymchwilwyr. Mae gan ymchwilwyr posibl lawer i’w ennill o gysylltiad ffurfiol â chydlynwyr Biosffer Dyfi. Byddai hyn yn cynnwys rhoi sêl bendith ar eu gwaith, cyswllt i strwythurau ehangach UNESCO a chydweithrediad llawn deiliaid diddordeb ac ymchwilwyr presennol. Yn gyfnewid am hyn byddai disgwyl iddynt hwythau:

  • weithio’n agos gyda fforwm ymchwil cymunedol pe sefydlid un, a
  • chytuno i unrhyw ganllawiau y gellir eu datblygu fyddai’n ymwneud â’r cysylltiad â’r cyhoedd a deiliaid diddordeb eraill.

Lluniodd Mike Bailey o Gyngor Cefn Gwlad Cymru lyfryddiaeth i gyd-fynd â chais 2008 Biosffer Dyfi i UNESCO.

Mae sefydliadau Addysg Uwch sydd oddi mewn i Fiosffer Dyfi ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r Graduate School of the Environment (GSE) yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen. Dilysir cyrsiau yn yr olaf gan Brifysgol Dwyrain Llundain (University of East London). Mae Biosffer Dyfi wedi sefydlu cysylltiadau da gyda Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, a gyda’r adran dros Addysg Barhaus yn Aberystwyth.

Mae traethodau a luniwyd gan fyfyrwyr israddedig yn Aberystwyth yn cynnwys

  • Lucy Cansfield – ‘Participation in the Biosphere redesignation process’
  • Anna Williams – ‘Public perceptions & understanding of environmental designations’

Lluniwyd traethawd MA Mark Hebden 2006 'Environmentality: UNESCO Biosphere Reserves, and globalisation of environmental governance' yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Aberystwyth.

Mae gwaith perthnasol gan fyfyrwyr gradd meistr yn y GSE yn cynnwys trafodaeth ar gynllunio gweithredu ym Miosffer Dyfi a’r potensial am ynni adnewyddadwy.