Addysg, hyfforddiant a dysgu gydol oes

Mae Gwarchodfeydd Biosffer yn cael eu gwerthfawrogi’n fyd-eang fel lleoliadau arbennig ar gyfer pobl a natur, sy’n seiliedig ar werthoedd craidd cadwraeth, datblygu cynaliadwy a dysgu

Mae Partneriaeth Biosffer Dyfi, trwy waith Grŵp Addysg Biosffer Dyfi (DBEG), am gynorthwyo addysgwyr a dysgwyr i gael y budd mwyaf posib o’r cyfleoedd dysgu arbennig sydd ynghlwm wrth ennill statws fel un o Warchodfeydd Biosffer UNESCO. 

Amlinellir y weledigaeth hon a’i deilliannau arfaethedig yma(pdf)

 

Hwyluso’r broses: Grŵp Addysg Biosffer Dyfi (DBEG)

Mae'r grŵp hwn yn rhwydwaith amrywiol sy’n dal i dyfu o ddarparwyr addysg proffesiynol, yn rhai ffurfiol ac anffurfiol, o fewn Biosffer Dyfi. Diben bodolaeth y grŵp yw cydlynu darpariaeth o  addysg effeithiol o fewn cyd-destun y Biosffer. 

 

Pecyn Gweithgareddau Addysg Gwarchodfa Biosffer Dyfi

‘Dysgu ynghylch, o fewn ac ar gyfer Gwarchodfa Biosffer Dyfi’

Gan fanteisio ar y cyfleoedd dysgu unigryw a gynigir gan Fiosffer Dyfi, mae'r grŵp addysg wedi llunio pecyn o weithgareddau biosffer i ysgolion, gyda chefnogaeth Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mae'r pecyn ar gael yma ar safle GCAD.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y grŵp addysg, cysylltwch ag: education@dyfibiosphere.org.uk

 

 biosffer dyfi facebook page Hoffwch ni ar facebook

biosffer dyfi twitter feed Dilynwch ein ffrwd trydar