Gofynnodd Menter Mynyddoedd Cambria (CMI) a Chyngor Cefn Gwlad Cymru i ecodyfi eu cynorthwyo i gynhyrchu dogfen ‘cynllun gweithredu’. Mae'r ddogfen yn disgrifio beth mae pobl yn ei wneud i wella ansawdd a chynaladwyedd bywyd yn eu cymuned leol. Mae'r ddogfen hefyd yn tynnu sylw at syniadau fydd ganddynt am weithredu pellach.
Efallai y gwelwch fod pobl eraill â’r profiad o wneud yr hyn oedd yn eich meddwl chi, ac y gallwch ddysgu oddi wrthynt. Neu y gallwch wneud pethau mewn modd mwy effeithlon mewn partneriaeth ag eraill.
Bydd hefyd o gymorth i Fenter Mynyddoedd Cambria, Biosffer Dyfi, awdurdodau lleol ac eraill i ddeall beth mae pobl eisiau ei wneud, a sut mae’n bosib eu helpu.
Cael golwg ar y ddrafft cyfredol, a dywedwch wrth ecodyfi am unrhyw weithgareddau neu awgrymiadau perthnasol.

© 2007 Dyfi Biosphere