Gwneud i bethau ddigwydd

Erbyn hyn, gan fod Dyffryn Dyfi wedi adnewyddu’i statws Biosffer, mae’r drws yn agored i fusnesau a diddordebau cymunedol helpu i ddod â’r manteision rydym i gyd yn gobeithio eu gweld.

Mae gennym gyfle euraidd i adeiladu economi egnïol yn seiliedig ar asedau naturiol gwych yr ardal, gan ddiogelu diwylliant lleol ar yr un pryd.

Mae Partneriaeth Biosffer Dyfi yn arwain y broses, ond mae angen i bobl leol fachu’r cyfle trwy ddod yn rhan ohoni.

Un ffordd o gymryd rhan yw ymuno ag un o’r grwpiau fydd yn darparu cydlynu “cyffyrddiad ysgafn”. Disgrifir y rhain yn y nodyn briffio  y gallwch ei lawrlwytho (Word 29 KB).

Ffordd arall fyddai awgrymu gweithgareddau y tybiwch chi fyddai’n cynorthwyo’r ardal i symud tuag at weledigaeth y Biosffer  neu yn cyd-fynd â’i hamcanion.

Mae’r gweithgareddau sy’n bodoli ar hyn o bryd yn cynnwys marchnata ar y cyd gan fusnesau twristiaeth (gweler eu gwefan),  hyfforddi athrawon lleol a dod ag ymchwilwyr at ei gilydd.

 

 

 biosffer dyfi facebook page Hoffwch ni ar facebook

biosffer dyfi twitter feed Dilynwch ein ffrwd trydar