“Bydd Biosffer Dyfi’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol am amrywiaeth ei harddwch naturiol, ei threftadaeth a’i bywyd gwyllt, ac am ymdrechion ei phobl i wneud cyfraniad positif i fyd mwy cynaliadwy. Bydd yn gymuned hyderus, iach, gofalgar a dwyieithog, yn cael ei chefnogi gan economi gref wedi’i seilio ar gryfderau lleol.”
1. Cadw a gwella’r fro fel lle gwych i fyw, gweithio ac i fagu plant – a chreu mwy o gyfleoedd iddynt fedru aros yma
2. Gosod mwy o werth ar ein hamgylchedd naturiol ac ar ddiwylliant yr iaith Gymraeg
3. Cynyddu gweithgaredd mewn cadwraeth natur trwy weithgaredd gwirfoddol
4. Annog trafodaeth, cytundeb a chyd-lynu rhwng pobl a sefydliadau sy’n berchen ar werthoedd a blaenoriaethau gwahanol
5. Datblygu economi leol mwy hunan-ddibynol, yn llai dibynnol ar danwydd ffosil, gyda thwf sy’n cael ei yrru gan wybodaeth ac adnoddau lleol
6. Datblygu ardal sy’n fwy cynaliadwy; gyda’r trigolion a’r ymwelwyr yn dewis nwyddau a gynhyrchwyd yn lleol yn amlach, ac yn lleihau ein heffaith ar y byd
7. Defnyddio ‘brand’ y Biosffer i hyrwyddo ansawdd cynnyrch amaethyddol a chynnyrch arall, a phrofiadau twristiaeth
8. Sicrhau addysg a hyfforddiant mewn datblygu cynaliadwy, yn ogystal ag ymchwil yn y gwyddorau naturiol a chymdeithasol, i gefnogi’r weledigaeth Biosffer
9. Manteisio ar gymorth a chyngor gan UNESCO a Gwarchodfeydd Biosffer eraill ledled y byd
Bydd yr amcanion hyn yn cael eu mireinio yn ystod y broses o lunio strategaeth a chynllun gweithredu i’r Biosffer. Bydd hyn yn digwydd yn y cyfnod rhwng Tachwedd 2007 a Mawrth 2009. Roedd y Ddogfen Ymgynghorol Ebrill 2007 yn amlinellu nifer o brosiectau posibl ar gyfer y cynllun gweithredu, ond disgwylir gweld rhai eraill yn datblygu o’r Fforymau a’r mentrau thematig.
1. Mae pobl – eu hagweddau a’u gweithgareddau – yn ganolog i’r broses Biosffer.
2. Mae Biosffer Dyfi’n fan lle mae teimlad o ffyniant ymhlith y bobl yn cael ei wella, lle mae pobl yn derbyn y grym i gymryd rhan mewn trafodaethau, gwneud penderfyniadau a chyd-gyflawni
3. Swyddogaeth y llywodraeth a sefydliadau statudol yw hwyluso datblygu cynaliadwy er mwyn annog a galluogi pobl i gymryd cyfrifoldeb.
4. Mae Biosffer Dyfi’n ardal enghreifftiol, yn gosod meincnod ar gyfer bywyd “gwyrdd” dwyieithog.
5. Mae ein heconomi’n dod yn fwy hunan-ddibynnol ac yn llai carbon-ddwys, wedi’i seilio gan fwyaf ar ddiwylliant lleol, adnoddau, cynnyrch ac asedau amgylcheddol.
6. Mae newid adeiladol yn digwydd, bron yn anfwriadol, o ganlyniad i warchod, cryfhau a dathlu elfennau bywyd a’r byd y mae’r gymuned yn eu gwerthfawrogi ac yn dymuno’u trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.
© 2007 Dyfi Biosphere