17 Ionawr 2012
25 Mawrth 2011
Mae’r ardal, sydd wedi’i chanoli o gwmpas yr Afon Ddyfi, yn lle arbennig i fyw, gweithio ac i ymweld â hi - arbennig i’w phobl, ei diwylliant a’i hamgylchedd nodedig.
Mae’n gartref i rai o’r enghreifftiau gorau o dirweddau arbennig ac ardaloedd bywyd gwyllt yn Ewrop. Ac yn ychwanegol at hynny, mae ganddi gymuned sy’n malio amdani, ac yn gofalu am y lle arbennig hwn.
Dynodwyd rhan isaf Dyffryn Dyfi yn Fiosffer am y tro cyntaf yn yr 1970au, ond roedd rheolau newydd yn yr 1990au yn golygu bod yn rhaid i safleoedd ail–ymgeisio o dan feini prawf newydd. Yn dilyn ymgynghoriad lleol helaeth, gofynnodd Partneriaeth Biosffer Dyfi i UNESCO am ail-gofrestru ardal llawer yn fwy.
Cyhoeddodd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai, gytundeb UNESCO ym Mehefin 2009.
Mae Biosffer Dyfi yn rhan o rwydwaith o safleoedd ledled y byd lle mae gwybodaeth a phrofiadau yn cael eu rhannu, a syniadau newydd yn cael eu harchwilio.
Byddwn yn gweithio’n lleol i arloesi yn y modd y mae etifeddiaeth, diwylliant ac economi lleol yn gallu ffynnu mewn cytgord â’r amgylchedd naturiol.

Dylunio gwefan gan Cyberium
© 2007 Dyfi Biosphere