26 Chwefror 2009
Mae twristiaeth yn rhan bwysig iawn o economi Dyffryn Dyfi. Mae llawer o apêl yr ardal wedi’i seilio ar ei hasedau naturiol a diwylliannol, yn cael eu cefnogi gan arbenigedd a diddordeb cymunedol mewn byw yn gynaladwy. Mae ail- ddynodi disgwyliedig y dyffryn cyfan yn ardal Biosffer UNESCO yn cyflwyno cyfleoedd i adeiladu ar ei enw da am ragoriaeth.
Bu ecodyfi yn cynorthwyo busnesau twristiaeth i gydweithio â buddiannau twristiaeth y sector gyhoeddus ers nifer o flynyddoedd. Ysgogwyd datblygiad cynnyrch gan fenter Ardal Twf Twristiaeth Dyffryn Dyfi, e.e. beicio mynydd a gwylio bywyd gwyllt. Pan ddaeth hyn i ben yn gynnar yn 2008, trodd y bobl oedd yn gysylltiedig eu golygon at farchnata. Rhoddwyd arian gan bartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru i gyfateb â chyfraniadau ariannol lleol ac fe ddyfeisiwyd ymgyrch gan asiantaeth wedi’i seilio ar www.lyfidyfi.com.
Ddiwedd 2008 penderfynodd y grŵp ei fod am ehangu a dod â’r dimensiwn twristiaeth i broses Biosffer Dyfi. I’r pwrpas hwn, lluniwyd meini prawf ar gyfer cyfranogiad / aelodaeth sydd yn adlewyrchu amcanion a gweledigaeth y Biosffer. Yr angen sylfaenol yw i’r busnesau dan sylw ymroddi i gefnogi’r weledigaeth hon ac i wella ei weithrediad mewn meysydd megis rheoli gwastraff, prynu’n lleol a hyrwyddo treftadaeth leol.
Yn ogystal â hyn, bydd aelodau yn cael eu gwahodd i ymuno ag un neu ddwy system achredu ffurfiol, Y Ddraig Werdd a Chynllun Twristiaeth y Ddraig Werdd. Mae’r ddwy yn annog dilyniant trwy nifer o lefelau o gyflawniad. Os bydd Partneriaeth Biosffer Dyfi yn cymeradwyo a hyrwyddo’r cyswllt hwn, gall ddod yn fodel i fathau eraill o fusnesau.
© 2007 Dyfi Biosphere