6 Ionawr 2009
Mae angen i bobl sy’n byw mewn Biosffer fod yn ymwybodol o hynny, ac os yw potensial twristiaeth am gael ei gyflawni, mae angen i’r twristiaid weld tystiolaeth ohoni hefyd. Ceisia’r Biosfferau godi ymwybyddiaeth o werth ein hetifeddiaeth naturiol ac archwilio i sut y gall pobl fanteisio o’i gwarchod.
Nid oes dehongliad o Fiosffer Dyfi i’w gael ar hyn o bryd, a bu rhai’n ystyried sut i fynd o’i chwmpas. Mae nifer o sefydliadau yn debygol o godi byrddau gwybodaeth ar eu lleoliadau yn y dyfodol agos, e.e. mewn gwarchodfeydd natur. A ddylai fod ganddynt yr un ddelwedd a neges allweddol am Fiosffer Dyfi fel bo ymwelwyr yn eu gweld yn y cyd-destun ehangach hwnnw?
Mae “dehongliad” safle, cynefin neu broses yn golygu cyfathrebu â phobl pan maent allan yn mwynhau eu hunain. Yn gyffredinol, nid yw ymwelwyr yma i ddysgu, felly bydd raid i’r neges a’r cyfrwng fod yn gyraeddadwy ac apelgar. Gall hyn gynnwys delweddau symudol a chlywedol yn ogystal â darluniau ac ysgrifen.
Cynhaliwyd dau gyfarfod i drafod hyn lle cafwyd trafodaethau ar bynciau megis dyhead Cyngor Cefn Gwlad Cymru i uwchraddio ei arddangosfeydd yn Ynyslas a chynlluniau RSPB ar gyfer Ynyshir. Mae’r ddau gynllun yn cynnwys gweithgareddau ar eu safleoedd eu hunain ac yn dibynnu ar y gallu i gael arian gan yr Undeb Ewropeaidd trwy brosiect o’r enw Cymunedau a Natur.
© 2007 Dyfi Biosphere