Cysylltiadau rhwng Biosffer Dyfi â Gwarchodfeydd Biosffer Gogledd Dyfnaint a Gogledd Norfolk

16 2008

Ysgolion Gogledd Dyfnaint

Yn Hydref 2008, cynhaliodd Mike Bailey ac Andy Rowland daith maes i fyfyrwyr daearyddiaeth chweched dosbarth o Ogledd Dyfnaint. Daethant yr holl ffordd o Ysgol West Buckland, a ffurfiodd bartneriaeth â nifer o ysgolion y wladwriaeth yn eu hardal. Roeddynt yn ymchwilio i Warchodfeydd Biosffer Dyfi a Gogledd Dyfnaint ac yn eu cymharu.

Yn ogystal ag ymweld ag Ynyslas, Cors Fochno ac enghreifftiau o dechnolegau solar sy’n cael eu defnyddio ym Machynlleth, cyfarfu’r myfyrwyr ag Iestyn Thomas o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn yng Nglaslyn. Mae’r Ymddiriedolaeth yn arbrofi â ffyrdd arloesol o wella gallu’r uwchdiroedd mawnog i storio carbon ac i ddal dŵr llifogydd yn hwy.

Gogledd Norfolk

Yn Rhagfyr 2008, bu Andy Rowland yn cynorthwyo Hambrey Consulting yng Ngwarchodfa Biosffer Arfordir Gogledd Norfolk. Fe’u comisiynwyd i adolygu holl Fiosfferau’r DU gan y Llywodraeth, yn unol â chais UNESCO.

Nid oes llawer yn digwydd yng Ngogledd Norfolk, yn debyg iawn i sefyllfa Biosffer Dyfi ddeng mlynedd yn ôl, oherwydd mae’r dynodiad yn hollol ddisymud. Roedd gan ran ddalwyr allweddol ddiddordeb mewn clywed am y broses o gael pobl i gymryd rhan ym Miosffer Dyfi a byddant yn ystyried a ydynt am gymryd camau tebyg yno.

Main Menu

Contact

Biosffer Dyfi
Ffôn : 01654 703965