2 2008
Un sector o’r economi sy’n debygol o dyfu yw'r hyn a elwir yn aml yn “nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol”. Mewn cyfarfod agored ar Dachwedd 20fed 2008, dechreuwyd archwilio i’r posibilrwydd o ehangu’r sector hon yn Nyffryn Dyfi, lle mae nifer helaeth o fusnesau a sgiliau perthnasol eisoes yn bodoli.
Trefnwyd a chefnogwyd y digwyddiad hwn ar y cyd gan ecodyfi a swyddfeydd Llygad Busnes Dolgellau, Y Drenewydd ac Aberystwyth fel rhan o’r Wythnos Fenter ac fe’i cynhaliwyd ar ôl Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ecodyfi.
Nododd y cyfranogwyr y cryfder lleol mewn gwasanaethau ynni adnewyddadwy, ond hefyd y diffyg sydd mewn busnesau effeithlonrwydd ynni yng Nghanolbarth Cymru i’w gymharu â’r mwyafrif o ardaloedd Prydain.
Y pedwar pwynt penodol a drafodwyd oedd arbed ynni mewn adeiladau, ynni adnewyddadwy, tyfu bwyd a gwastraff bwyd.
Llawrlwytho'r cofnodion (Word: 50 KB Saesneg) a chyflwyniad Paul Allen (Powerpoint 3 MB Saesneg)
© 2007 Dyfi Biosphere