Grantiau Biosffer Dyfi

28 Mawrth 2008

Biosffer Dyfi yn helpu prosiectau ymarferol

Mae ysgolion, gwirfoddolwyr a naturiaethwyr yn Nyffryn Dyfi yn dathlu’r llwyddiannau a gyflawnwyd dros y Gaeaf gyda chymorth menter Biosffer Dyfi.

Dyrannwyd £20,000 gan Adran Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai Llywodraeth Cynulliad Cymru tuag at weithgareddau sy’n berthnasol i naill ai gadwraeth natur neu newid yn yr hinsawdd.

Cymeradwywyd 28 o geisiadau, er na ddigwyddodd un o’r rhain yn y diwedd.

Dyma rai enghreifftiau o brosiectau a gwblhawyd:

Comisiynwyd adroddiad ynni gan Glwb Golff Machynlleth ac fe insiwleiddiwyd y clwb er mwyn lleihau gwastraff ynni. Defnyddiodd y clwb gyllid Llywodraeth y DG ac Ewropeaidd i osod system gynhesu dŵr solar yn ogystal - gan leihau ei gyfraniad tuag at newid pellach yn yr hinsawdd.

Bu Cylch Meithrin Corris, Meithrinfa Blant Machynlleth, Ysgol Machynlleth ac Ysgol Pennal yn creu gerddi neu ardaloedd bywyd gwyllt y tu allan er mwyn gwarchod natur, hybu bywyd gwyllt a chynyddu bioamrywiaeth, gan gynnal gweithgareddau addysgiadol sydd yn codi ymwybyddiaeth gyda’r plant

Bu rhai o’r prosiectau yn gyfrifol am blannu gwrychoedd o rywogaethau brodorol i ddenu a chysgodi bywyd gwyllt, a bu rhai’n gosod blychau nythu ac yn ymdrin â chynefinoedd eraill. Cyfrannodd un grant tuag at gychwyn Y Grŵp Gwirfoddolwyr Natur a Chadwraeth, sydd yn bwriadu bod yn weithgar trwy ardal Biosffer Dyfi.

Mae mwy o fanylion ar gael ar http://www.biosfferdyfi.org.uk/start/small-grants/

Main Menu

Contact

Biosffer Dyfi
Ffôn : 01654 703965