26 Chwefror 2008
Wedi mynychu Cyngres Gwarchodfeydd Biosffer y Byd ym Madrid, cymerodd Andy Rowland y cyfle i ymweld â Gwarchodfa Fiosffer Urdaibai yn y rhan Sbaenaidd o Wlad y Basg.
Roedd y bartneriaeth oedd wedi cyflwyno’r cais i UNESCO am ehangu Biosffer Dyfi wedi canfod y tebygrwydd rhwng y warchodfa hon â Dyffryn Dyfi, gan gynnwys cymdeithas ddwyieithog ac aber cyfoethog mewn rhywogaethau adar. Mae gan y ddwy ardal drefi hanesyddol yn ganolbwynt iddynt (Machynlleth a Guernica) ac mae cyrchfannau arfordirol Aberdyfi a Sukarrieta yn rhyfeddol o debyg.
Roedd gan y cydlynwyr ddiddordeb mawr mewn cydweithio. Mae pynciau posib yn cynnwys rheoli systemau twyni tywod, twristiaeth wledig gynaladwy a newid yn yr hinsawdd.
Gwelodd Andy fod yna wahaniaethau sylweddol rhwng y ddwy ardal yn ogystal â thebygrwydd. O ganlyniad i bwysau oddi wrth y polisi amaethyddol Ewropeaidd datblygodd amaethyddiaeth yn y dyffryn i fod yn nifer fechan o ffermydd masnachol a llawer o fân ddaliadau anffurfiol. I’r gwrthwyneb i’r sefyllfa yn y DU, mae gan Fiosffer Urdaibai bwerau rheoli datblygiad ac mae’n rhan o’r llywodraeth ranbarthol.
© 2007 Dyfi Biosphere