19 Chwefror 2008
Bu cynrychiolwyr o ardal Biosffer Dyfi yn cymryd rhan yn ddiweddar mewn adolygiad o un o’r prif beirianweithiau i hybu datblygiad cynaladwy y Cenhedloedd Unedig. Roedd y gyngres ym Madrid yn gyfarfod anferth, ac yn brofiad addysgol gwerth chweil.
Ardaloedd yw’r “Gwarchodfeydd Biosffer” sy’n canolbwyntio ar geisio sicrhau cydbwysedd rhwng gwarchodaeth bioamrywiaeth â defnydd cynaladwy. Fe’u hadnabu gan UNESCO fel cymunedau blaengar, sydd yn ceisio adeiladu economïau egnïol wedi’u seilio ar asedau naturiol cyfoethog, wrth warchod diwylliant lleol ar yr un pryd.
Teithiodd Mike Bailey, Uwch Reolwr Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, ac Andy Rowland, Rheolwr ecodyfi, i’r gynhadledd gofiadwy hon ym Madrid ar ran Partneriaeth Biosffer Dyfi, er mwyn gofyn i UNESCO ehangu ardal Biosffer Dyfi. Bu Dr Ioan Fazey o Brifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn ogystal.
Canolbwyntiodd y rhan helaeth o’r trafod ar baratoi Cynllun Gweithredu Madrid swyddogol, a oedd yn gyfrifol am arwain datblygiad a chydlyniant y Rhwydwaith Byd-eang o Warchodfeydd Biosffer, a gwnaeth Andy’r sylw mai’r rhan mwyaf gwerthfawr o’r digwyddiad oedd y trafod anffurfiol â gweithwyr eraill yn y maes.
© 2007 Dyfi Biosphere