Grantiau cyntaf y Biosffer wedi’u cymeradwyo

15 Ionawr 2008

Grantiau cyntaf y Biosffer wedi’u cymeradwyo 

Mae dwy ysgol gynradd a dau unigolyn sy’n ystyriol o’r amgylchedd yn rhannu arian cymorth grant o £3,200 a roddir trwy fenter Biosffer Dyfi. Mae syniadau eraill sy’n cael eu hystyried yn cynnwys cynadleddau bychain, syniadau arbed ynni ac offer i fusnesau bychain. Mae’r trefnwyr yn dweud nad oes ond ychydig o amser ar ôl i eraill gyflwyno cais.  

Mae Ysgol Pennal ac Ysgol Gynradd Machynlleth yn arwain y ffordd trwy gynllunio gwelliannau i dir yr ysgol. Bydd gweithgareddau ym Mhennal yn creu blychau adar ac yn troi’r ardal yn ystafell ddosbarth awyr agored lle bydd y disgyblion yn astudio adar ac anifeiliaid eraill.

Mae Ysgol Gynradd Machynlleth yn gobeithio codi’i safle fel Ysgol Eco trwy greu pwll a gardd natur. Dywedodd Cydlynydd y Pwyllgor Ysgol Eco, Gwenfair Glyn, ei bod yn edrych ymlaen am weld y plant yn gwylio penbyliaid yn datblygu’n frogaod, ac yn dod i ddeall pwysigrwydd cynnal amrywiaeth o gynefinoedd.

Yng Ngheredigion, mae Ian Mitchell yn plannu gwrych naturiol newydd ar ei dyddyn organig yn Llancynfelin. Bydd yn derbyn grant fechan i brynu stoc o blanhigion brodorol a fydd yn dod yn gartref i gannoedd o wahanol greaduriaid. “Mae gwrychoedd fel hyn yn gwella ansawdd y tirwedd”, meddai, “ac yn creu coridorau neu lochesau diogel i fywyd gwyllt, gan gysylltu ag ardaloedd ehangach o goetir bioamrywiol.”

Mae Anne Hooper yn meddwl ar hyd yr un llinellau, a bydd yn derbyn cymorth i greu planhigfa goed ar dir yn ymyl Cemaes a Chomins Coch. Bydd ei grŵp bach o wirfoddolwyr yn tyfu coed brodorol megis ynn, criafol, cyll a helyg, a bydd yn cynnwys elfen addysgol trwy annog y gymuned ehangach i gyfranogi.

Mae’r arian yn dod o Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac wedi’i glustnodi ar gyfer gweithgareddau yn ardal Biosffer Dyfi sy’n ymwneud â chadwraeth natur neu newid yn yr hinsawdd.

Gweinyddir y grantiau gan ecodyfi ar ran Partneriaeth Biosffer Dyfi. Eglurodd y Swyddog Cyfathrebu â’r Gymuned, Delyth Richards, nad oedd y Bartneriaeth am aros yn llonydd tra bo UNESCO’n ystyried cais yr ardal i adnewyddu’r statws Biosffer. “Rwy’n teimlo’n gyffrous ein bod yn gallu helpu pobl i wneud pethau ar ôl yr holl siarad,” meddai. Rydyn ni’n gobeithio mai hon yw’r enghraifft gyntaf o sut fydd y statws newydd yn gallu cyflwyno cyfleoedd newydd i wella’n ardal arbennig”.  


Mae’r grantiau sydd i’w cael yn werth rhwng £50 a £1000, ac yn gallu bod yn 100% o’r costau. Pwysleisiodd Delyth ei bod yn rhaid iddynt gael eu gwario cyn diwedd Mawrth 2008, a bod y ffurflen gais yn un syml.


Gall ceisiadau ddod oddi wrth unrhyw un lleol, gan gynnwys busnesau, grwpiau cymunedol, ysgolion ac unigolion. Dywedodd Delyth mae’r ‘cyntaf i’r felin’ fydd yn derbyn grantiau ar gyfer gweithgareddau cymwys, - felly dylai unrhyw un sydd â syniad sy’n ymwneud â chadwraeth natur neu newid yn yr hinsawdd gysylltu ar unwaith cyn i’r £15,000 sydd i’w gael ddod i ben.

Main Menu

Contact

Biosffer Dyfi
Ffôn : 01654 703965