Ariannu ar gyfer prosiect unigryw Biosffer Dyfi

26 Hydref 2007

Ariannu ar gyfer prosiect unigryw Biosffer Dyfi

Cyhoeddodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Jane Davidson, y bydd ariannu pellach i gynorthwyo datblygu prosiect Biosffer Dyfi, yr unig un yng Nghymru.

Wrth siarad mewn cyfarfod Partneriaeth Biosffer Dyfi ym Machynlleth, dywedodd y Gweinidog y byddai prosiect Dyfi’n enghraifft werthfawr o sut y gall cymunedau fyw’n gynaliadwy a helpu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd.

Mae 482 o ardaloedd Biosffer UNESCO yn y byd, ond y Dyfi yw’r unig un yng Nghymru. Mewn ardaloedd Biosffer mae’r gymuned leol a busnesau’n gweithio gyda’i gilydd i gyflawni nod UNESCO o “gyflwyno ac arddangos dulliau cadwraethol a datblygu cynaliadwy ar lefel leol”.  

Mae ardal Biosffer Dyfi, fel y mae ar hyn o bryd, yn rhy fach ac nid yw’n cynnwys digon o bobl i gael ei hystyried yn ardal biosffer ‘fodern’. Yn dilyn ymgynghori lleol maith penderfynodd Partneriaeth y Biosffer fod yna ddigon o gefnogaeth i gyflwyno cais am ail-gofrestru i UNESCO fel biosffer ‘fodern’ ehangach.

Mae’r cais yn cael ei baratoi gan aelodau o Bartneriaeth Biosffer Dyfi a bydd yn cael ei anfon ar y daith hir i bencadlys UNESCO trwy Lywodraethau Cymru a San Steffan a phwyllgorau UNESCO.

Mae ecodyfi yn gwneud y gwaith gweinyddol i’r Bartneriaeth ac yn rheoli’r broses gyfathrebu â’r gymuned. Dywedodd Andy Rowland o ecodyfi bod y Bartneriaeth yn gobeithio anfon y cais ar ei ffordd ar Dachwedd 22ain, ond na fydd cadarnhad UNESCO’n cyrraedd tan fis Medi’r flwyddyn nesaf.

Yn y cyfamser bydd yr amser yn cael ei wario i ddwyn pobl i mewn i fod yn rhan o ddatblygu cynllun gweithredu, trwy brosiectau a gweithgareddau a fydd yn dod â’r manteision o’r statws.

Bydd grant o £15,000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru’n ein galluogi i ddechrau ar y gwaith trwy roi nifer o brosiectau bychain ar ben y ffordd yn ystod y 5 mis nesaf. Dywedodd Delyth Richards, Swyddog Cyfathrebu â’r Gymuned, “Mae hyn yn newyddion gwych. Nawr gallwn helpu grwpiau lleol i roi rhai syniadau ymarferol sy’n berthnasol i amcanion y Biosffer ar waith”.

 “Tra bo’r rhain yn berthnasol i faterion amgylcheddol”, ychwanegodd, “gallant hefyd anelu at hyrwyddo ein diwylliant a’n treftadaeth nodedig”. Bydd y cyfarfod ar yr 22ain yn ystyried sut i symud ymlaen, a dylai’r rhai hynny sydd â diddordeb gysylltu â Delyth am sgwrs anffurfiol.

Main Menu

Contact

Biosffer Dyfi
Ffôn : 01654 703965