O’r Amason i’r Ddyfi

26th Jul 2007

Mae darn mawr o fforest law'r Amason yn dod i Fro Ddyfi Awst 9fed. Neu, o leiaf, mae swyddog y llywodraeth sy’n gyfrifol amdani’n dod yma.

Mae Cesar Aponte o Weinyddiaeth yr Amgylchedd Venezuela yn rhoi cyflwyniad eglurhaol yn y Tabernacl ym Machynlleth, yn dechrau am 7.30 o’r gloch.

Bydd y cyfarfod yng ngofal Partneriaeth Biosffer Dyfi.

Ar yr olwg gyntaf, mae pobl Bro Ddyfi’n wahanol iawn i Venezuela. Ond mae’r ddau le wedi’u cofrestru fel ardaloedd Biosffer gan UNESCO. Mae’r ddau le’n aelodau o rwydwaith y Cenhedloedd Unedig sy’n archwilio sut y gall pobl fanteisio o warchod eu hamgylchedd a’u treftadaeth.  

Bydd Cesar yn rhoi cipolwg ar fforest law sy’n cysylltu gyda’r bobl sy’n ddibynnol arni, ac ar y perthnasau grym a’r polisïau sy’n dylanwadu ar eu dyfodol.

Fel y mae Partneriaeth Biosffer Dyfi’n paratoi’r cais i ail-gofrestru Bro Ddyfi gydag UNESCO, yn seiliedig ar ardal ehangach a gweledigaeth newydd, tybed beth fydd y gymuned leol yn medru’i ddysgu oddi wrth ei hymwelydd?

Eglurodd Delyth Richards o’r Bartneriaeth y byddai cyfle i gynnal trafodaeth yn ystod y digwyddiad. “Ryden ni’n gobeithio hefyd y bydd Cesar yn dod â’r Amason yn fyw gyda’i luniau a’i straeon”, meddai, “ac y bydd pobl sydd ddim wedi cymryd rhan yn Biosffer Dyfi hyd yn hyn yn mwynhau’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn.”

Bydd Andy Rowland, ecodyfi, yn dangos rhai lluniau o Fro Ddyfi hefyd, er mwyn egluro’r diddordeb sydd gan y broses Biosffer mewn treftadaeth leol, yr amgylchedd a’r economi.

Bydd Cesar Aponte yn cymryd rhan mewn gweithdy hefyd Ddydd Gwener, Awst 10fed yn y Tabernacl o dan y teitl ‘Olew, Tegwch a Biosfferau’. Mae’n cael ei drefnu gan ŵyl El Sueño Existe ar y cyd gyda’r Ganolfan Dechnoleg Amgen.

Main Menu

Contact

Biosffer Dyfi
Ffôn : 01654 703965