Cwestyniau ac atebion

Beth yw Gwarchodfa Biosffer?

Nid gwarchodfeydd natur tebyg i'r rhai sy'n gyfarwydd i ni yng Ngwledydd Prydain yw Gwarchodfeydd Biosffer.

'Mannau arbennig ar gyfer pobl a natur' ydyn nhw.

Mae deall sut y gall pobl fyw bywydau o ansawdd uchel yn seiliedig ar amgylchedd naturiol ragorol yn nod i'r Gwarchodfeydd Biosffer.

Yn ôl UNESCO "Mae gwarchodfeydd biosffer ar sawl cyfrif yn 'labordai byw' ar gyfer profi ac arddangos rheolaeth gyfannol ar dir, dwr a bioamrywiaeth.

Efallai y dewiswn beidio ag arfer y gair "Gwarchodfa" yn lleol, gan ei fod yn gyfystyr â ffensiau ym meddwl rhai pobl.

Hwyrach y daw gair mwy ysbrydoledig i'r fei wrth i'r gymuned ddechrau cyfrannu i'r cynllun.

Rhagor o wybodaeth am Warchodfeydd Biosffer: www.unesco.org/mab/BRs.shtml

line Brig

MAB logoPwy yw UNESCO?

Corff Addysgol Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig yw UNESCO.

Corff cydgysylltu rhyngwladol ar ran y Rhwydwaith Byd-eang o Warchodfeydd Biosffer yw eu rhaglen Dyn a'r Biosffer.

Rhagor o wybodaeth am gynllun Dyn a'r Biosffer yn: www.unesco.org/mab

line Brig

Sut mae Gwarchodfeydd Biosffer yn gweithio?

Fe'u sefydlir o gwmpas 'Ardal Graidd' sydd fel arfer yn warchodfa natur o'r math sy'n gyfarwydd i ni, gyda gwarchodaeth lawn i'r amgylchedd.

Mae Gwarchodfa Biosffer Dyfi gyfan fel ag y mae hi yn 'Ardal Graidd': y Warchodfa Natur Genedlaethol yng Nghors Fochno, a'r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn aber Afon Dyfi.

Gan fod eisoes Ardal Graidd dda, nid yw'n fwriad gan neb i greu unrhyw warchodfeydd natur o'r newydd ar gyfer Gwarchodfa Biosffer Dyfi.

Mae'r Ardal Graidd o fewn, neu nesaf i 'Ardal Glustog' lle y rhoir gwarchodaeth i natur, a threfnir gweithgareddau pobl er mwyn iddynt beidio â thanseilio amcanion cadwraeth yr ardal graidd ond yn hytrach helpu i'w gwarchod.

Ceir gweithgareddau megis amaethyddiaeth o safon uchel, twristiaeth ac adloniant yn yr ardaloedd hyn.

Yn achos Dyffryn Dyfi, gellid enwebu mannau sydd eisoes yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, neu'n rhan o gynlluniau Amaeth-amgylcheddol, yn Ardaloedd Clustog - ond gyda chytundeb perchnogion tir yn unig.

Mae'r Warchodfa Biosffer gyfan, yn cynnwys yr Ardal Graidd a'r Ardal Glustog, o fewn 'Ardal Bontio'.

Dyma'r darn mwyaf diddorol! O fewn yr Ardal Bontio eir ati o ddifrif i greu ansawdd bywyd uchel, wedi'i seilio ar amgylchedd naturiol rhagorol.

Rhaid wrth bobl yno.

Yma, mae gofyn i holl randdeiliaid y Warchodfa Biosffer gytuno i weithio ynghyd er mwyn rheoli a datblygu adnoddau'r ardal mewn modd cynaliadwy er budd pawb sy'n byw yno.

Yn achos Gwarchodfa Biosffer Dyfi, awgrymwyd y dylai'r Ardal Bontio gynnwys dalgylch cyfan Afon Dyfi, oherwydd ei fod yn uned resymol o ran y bobl sy'n byw yma, a'r modd y bydd yr amgylchedd naturiol yn gweithio.

Ond nid oes raid i'r Ardal Bontio wrth derfyn sefydlog, felly ceir hyblygrwydd o fewn y system.

Mwy o wybodaeth am sut y mae Gwarchodfeydd Biosffer yn gweithio yn: www.unesco.org/mab/BRs.shtml

line Brig

Pam ddylai gwmpasu Dyffryn Dyfi?

Oherwydd fod Gwarchodfa Biosffer eisoes yn Nyffryn Dyfi a bod y dyffryn hwn yn ffurfio uned resymegol, hunangynhwysol sy'n unol â chanllawiau UNESCO ar gyfer Gwarchodfa Biosffer gyfoes.

Dywed UNESCO y dylai Gwarchodfeydd Biosffer gwmpasu clytwaith o systemau ecolegol a hwythau'n nodweddiadol o ranbarthau bioddaearyddol mawr, yn cynnwys graddiadau o ymyrryd dynol, ac y dylent fod o faint addas i gyflawni tair swyddogaeth Gwarchodfeydd Biosffer.

Mae'r dyffryn yn cysylltu'r cymunedau i gyd, boed yn ddynol neu ecolegol, mewn un uned drwy gyfrwng yr afon ei hun.

Mae'n ddigon mawr i apelio i UNESCO ac yn cynnwys amrywiaeth eang o systemau ecolegol o'r gweundiroedd ar y mynydd i lawr i'r môr ym Mae Ceredigion.

Cewch ragor o wybodaeth am ganllawiau UNESCO ar gyfer Gwarchodfeydd Biosffer yn: www.unesco.org/mab/

line Brig

Gwarchodfa natur yw hi?

Na! Y syniad gwreiddiol gyda Gwarchodfeydd Biosffer oedd gwarchod samplau oedd yn nodweddiadol o brif ecosystemau'r byd - ein 'Biosffer'.

Ond gwelwyd yn fuan na fyddai hyn yn cyflawni llawer ac addasodd UNESCO eu syniadau gan greu Gwarchodfeydd Biosffer ar eu gwedd bresennol: yn esiamplau i'r byd cyfan o'r modd y gall dynoliaeth fyw mewn cytgord cynhyrchiol â byd natur.

Mwy o wybodaeth am wreiddiau'r Gwarchodfeydd Biosffer yn: http://www.unesco.org/mab/faq_br.shtml

line Brig

Fydd rhaid i mi beidio â gwneud rhywbeth?

Na - oni bai eich bod yn dymuno!

Y syniad gyda Gwarchodfa Biosffer yw datblygu'r hyn sydd gennym yn barod.

Os ydych yn berchennog tir y mae eich gweithgareddau'n cael eu rheoli, oherwydd dynodi'r tir yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, neu i chi wneud cytundeb cadwraeth megis Tir Cymen neu Dir Gofal, yna gobeithio y bydd y Warchodfa Biosffer yn cynnig cyfle i chi.

Ym mhedwar ban byd, mae trigolion Gwarchodfeydd Biosffer wrthi'n astudio sut mae elwa ar y cysylltiad ag UNESCO a'r Cenhedloedd Unedig.

Cynlluniau marchnata a ry gyfle i ddefnyddwyr brynu nwyddau sy'n tynnu ar 'frand' UNESCO yw'r ffordd amlycaf.

Felly, efallai y byddwch am addasu'ch gweithgareddau er mwyn elwa o gyfleoedd marchnata newydd a ddaw - ond ni fydd neb yn eich gorfodi i wneud dim nad ydych eisoes yn ei wneud.

Rhagor am ddatblygu'r economi mewn Gwarchodfeydd Biosffer yma: http://www.unesco.org/mab/faq_br.shtml

line Brig

Sut fydd hyn yn effeithio ar fusnesau lleol?

Dylai bodolaeth dynodiad o achos amgylchedd naturiol rhagorol a gydnabyddir yn rhyngwladol gynnig cyfleoedd newydd i fusnesau lleol - ond iddynt fod yn barod i weithio i gael budd o'r Warchodfa Biosffer a'i goblygiadau.

Yn y gorffennol, amaethyddiaeth a diwydiannau ynglyn â'r tir oedd canolbwynt gweithgareddau i ddatblygu economi Gwarchodfeydd Biosffer.

Ond mae gan Fro Ddyfi glwstwr arwyddocaol o fusnesau ym meysydd ynni cynaliadwy a rheolaeth amgylcheddol, a gallai'r Warchodfa Biosffer roi hwb arall i hyn.

Dylai medru cysylltu gweithgareddau â 'brand' UNESCO/Y Cenhedloedd Unedig esgor ar gyfleoedd marchnata newydd a gallai'r ardal apelio fwy i fuddsoddwyr o ganlyniad.

Gobeithio y bydd yr awyrgylch a gr�ir gan y Warchodfa Biosffer yn ysgogi pobl leol i fentro a rhoi eu syniadau eu hunain ar waith ac yn sgîl hyn, creu busnesau newydd.

Sefydlwyd gweithlu rhyngwladol gan UNESCO i gynorthwyo Gwarchodfeydd Biosffer a'u partneriaid ar draws y Rhwydwaith Byd-eang o Warchodfeydd Biosffer i ddatblygu econom�au o'r fath a hyrwyddo gwarchodfeydd biosffer yn gyfrwng i arddangos datblygu cynaliadwy yn rhanbarthol a thu hwnt.

Mae rhagor am ddatblygu'r economi mewn Gwarchodfeydd Biosffer yma: http://www.unesco.org/mab/faq_br.shtml

line Brig

Sut fydd hyn yn effeithio ar ffermwyr lleol?

Gan mai datblygu'r hyn sydd gennym yn barod fydd Gwarchodfa Biosffer Dyfi, ni ragwelir y bydd rhaid i neb newid yr hyn y maen nhw eisoes yn ei wneud - oni bai eu bod yn dymuno!

Bydd Gwarchodfa Biosffer Dyfi yn cysylltu Dyffryn Dyfi gyfan ag UNESCO a thrwyddyn nhw, â'r Cenhedloedd Unedig, ym meddyliau pawb ddaw i wybod amdani.

Dylai hyn roi cyfle i neilltuoli cynnyrch amaethyddol Bro Ddyfi fwy byth oddi wrth nwyddau eraill a gynhyrchwyd yng Nghymru.

Mae defnyddwyr bellach yn barod i dalu uchelbris am gynnyrch sy'n unol â meini prawf cynhyrchu egwyddorol ac amgylcheddol.

Ond mae ffermwyr Gwledydd Prydain yn dal i gael trafferth i sicrhau'r prisiau uwch a addawyd am eu cynnyrch hyd yn oed pan fo'n cwrdd â meini prawf megis Safon Organig Cymdeithas y Pridd.

Mae cynnyrch marchnad neilltuol megis cig oen morfa heli o aber Afon Taf yn Sir Gaerfyrddin yn ennill arian oherwydd 'ymdeimlad o le' sy'n perthyn iddynt.

Dylai cysylltu safonau cynhyrchu uchel gydag adnabyddiaeth 'brand' Gwarchodfa Biosffer UNESCO ddarparu cyfleoedd tebyg � ond yn yr un modd â phob cyfle, rhaid wrth waith i gael budd ohono.

Sefydlwyd gweithlu rhyngwladol gan UNESCO i gynorthwyo Gwarchodfeydd Biosffer a'u partneriaid ar draws y Rhwydwaith Byd-eang o Warchodfeydd Biosffer i ddatblygu econom�au o'r fath a hyrwyddo gwarchodfeydd biosffer yn gyfrwng i arddangos datblygu cynaliadwy yn rhanbarthol a thu hwnt.

Mae rhagor am ddatblygu'r economi mewn Gwarchodfeydd Biosffer yma: http://www.unesco.org/mab/faq_br.shtml

line Brig

Sut fydd hyn yn cynorthwyo iaith a diwylliant Bro Ddyfi?

Mae UNESCO yn rhoi mwy o bwyslais ar rôl Gwarchodfeydd Biosffer wrth ddiogelu a hyrwyddo gwybodaeth a diwylliant lleol.

Yn ôl rhan allweddol o weledigaeth 'Strategaeth Sevilla', sy'n rheoli datblygiad Gwarchodfeydd Biosffer: "Dylid sefydlu cysylltiadau rhwng amrywiaeth ddiwylliannol a biolegol.

Dylid diogelu gwybodaeth draddodiadol ac adnoddau genetig a dylid cydnabod a rhoi anogaeth i'w rôl ym maes datblygu cynaliadwy."

Dyma gyfle i sicrhau lle canolog i ddiwylliant, iaith a hanes Bro Ddyfi yn y cynlluniau ar gyfer dyfodol y dyffryn cyfan ac i'w hintegreiddio ym mhob sector.

Mae hwn yn faes newydd i UNESCO, ac os y bydd Bro Ddyfi yn derbyn yr her, gallwn ddisgwyl y bydd UNESCO'n rhoi llawer o sylw i'r hyn fydd yn digwydd yma.

Ceir rhagor o wybodaeth am weledigaeth UNESCO ar gyfer Gwarchodfeydd Biosffer yn: http://www.unesco.org/mab/faq_br.shtml

line Brig

Pwy sy'n rheoli Gwarchodfeydd Biosffer?

UNESCO fydd yn gosod y rheolau ar gyfer ffurf Gwarchodfeydd Biosffer, ond rheolir Gwarchodfeydd Biosffer unigol gan eu rhanddeiliaid � gan gynnwys cymunedau lleol yn ogystal â chyrff cadwraeth.

Bydd Gwarchodfeydd Biosffer wastad "yn parhau'n ddarostyngedig i awdurdod sofran y gwladwriaethau y maent ynddynt".

Mae bod â Gwarchodfa Biosffer ar ryw gyfrif yn debyg i fod yn aelod o glwb rhyngwladol.

Ond i chi barchu rheolau'r clwb, cewch ddal i fod yn aelod a chael y manteision a ddaw yn sgîl aelodaeth.

Os na fyddwch yn glynu wrth y rheolau, rhaid gadael y clwb, ond ni all y clwb eich gorfodi i wneud dim yn groes i'ch ewyllys.

Yn ôl rheolau UNESCO, mae'n rhaid i Warchodfeydd Biosffer gael Cynllun Rheoli ac "awdurdod neu beirianwaith penodedig" i weithredu'r cynllun.

Maent yn galw am ddarparu trefniadau Cyfundrefnol ar gyfer cynhwysiad a chyfranogaeth ystod addas o, ymhlith eraill, awdurdodau cyhoeddus, cymunedau lleol a diddordebau preifat, yng nghyswllt cynllunio ac ymgymryd â gwaith gwarchodfa biosffer."

Maent hefyd yn gofyn i'r rhai sy'n trefnu Gwarchodfa Biosffer: "Hyrwyddo rheolaeth pob gwarchodfa biosffer yn sylfaenol ar lun "cytundeb" rhwng y gymuned leol a chymdeithas yn gyffredinol.

Dylai rheolaeth fod yn agored, esblygol ac ymaddasol.

Bydd agwedd o'r fath yn helpu i sicrhau fod gwarchodfeydd biosffer � a'u cymunedau lleol � mewn sefyllfa well i ymateb i bwysau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol o'r tu allan."

Ceir rhagor o wybodaeth am weledigaeth UNESCO ar gyfer Gwarchodfeydd Biosffer yn: http://www.unesco.org/mab/faq_br.shtml

Rheolau UNESCO ar gyfer Gwarchodfeydd Biosffer i'w gweld yma: http://www.unesco.org/mab/faq_br.shtml

line Brig

Pwy gaiff benderfynu beth fydd yn digwydd yn y Warchodfa Biosffer?

Pob un o'r rhanddeiliaid lleol.

UNESCO sy'n pennu'r meini prawf y mae'n rhaid i Warchodfa Biosffer eu cwrdd os yw i barhau'n Warchodfa Biosffer, ac un o'r meini prawf hyn yw'r angen i sicrhau cynhwysiad a chyfranogaeth y rhanddeiliaid i gyd, yn cynnwys cymunedau lleol, yng ngwaith y Warchodfa Biosffer.

Ceir rhagor o wybodaeth am weledigaeth UNESCO ar gyfer Gwarchodfeydd Biosffer yn: http://www.unesco.org/mab/faq_br.shtml

Rheolau UNESCO ar gyfer Gwarchodfeydd Biosffer i'w gweld yma: http://www.unesco.org/mab/faq_br.shtml

line Brig

Ai'r amcan yw galluogi i'r 'gwyrddion' gymryd yr awenau?

Na! Mae bod yn Warchodfa Biosffer yn weithred wirfoddol.

Ni all UNESCO orfodi i neb gydymffurfio â'u rheolau ar gyfer Gwarchodfeydd Biosffer, ond gallant ddiddymu'r dynodiad os na lynir wrth y rheolau.

Felly ni all y Warchodfa Biosffer ond gweithio'n iawn drwy gael y rhanddeiliaid i gyd i gytuno i lynu wrth y rheolau a chydweithio.

Pe bai un grwp yn ceisio rheoli'r grwpiau eraill byddai perygl wedyn i'r rhai eraill roi'r gorau i gydweithredu a gallai'r fenter gyfan fynd i'r gwellt.

Felly cyfrwng ar gyfer cydweithio, darbwyllo a chytuno yw Gwarchodfeydd Biosffer, nid i un sector neu'i gilydd gipio grym.

line Brig

Pam sydd raid newid Gwarchodfa Biosffer Dyfi?

Oherwydd fod UNESCO wedi moderneiddio eu diffiniad o Warchodfeydd Biosffer ac nid yw'r hen Warchodfa Biosffer yn rhan isaf Dyffryn Dyfi bellach yn cyfateb i'r diffiniad hwnnw.

Os na wnawn ni newid y Warchodfa Biosffer, cawn ein heithrio gan UNESCO o'r Rhwydwaith Byd-eang o Warchodfeydd Biosffer a byddwn yn colli cyfle.

Cyflwynodd y Deyrnas Unedig gais i UNESCO i sefydlu Gwarchodfa Biosffer yn rhan isaf Dyffryn Dyfi yn ôl yn 1976 pan oedd Gwarchodfeydd Biosffer ond yn warchodfeydd natur dyrchafedig.

Yna yn y 1980au gadawodd y DU UNESCO yn sgîl gwahaniaethau barn oedd ynghlwm â hinsawdd wleidyddol y cyfnod.

Yn ystod ein cyfnod oddi allan i UNESCO, ailystyriwyd diffiniad Gwarchodfa Biosffer yn llwyr, a phenderfynwyd ar y cysyniad presennol, nad gwarchodfeydd natur confensiynol mohonynt, ond lleoedd ar gyfer pobl a natur.

Nid oedd dim wedi newid yn Nyffryn Dyfi, ond yr oedd diffiniad Gwarchodfa Biosffer wedi newid.

Mae Gwarchodfa Biosffer Dyfi fel ag y mae hi'n rhy fach ac nid oes ganddi Ardal Glustog nac Ardal Bontio.

Fodd bynnag, mae gwir bosibilrwydd iddi fod yn rheng flaen y Rhwydwaith Byd-eang o Warchodfeydd Biosffer � o'i diweddaru i gwrdd â'r safon gyfoes.

Cewch fwy o wybodaeth am y meini prawf sy'n ofynnol ar gyfer Gwarchodfeydd Biosffer yma: http://www.unesco.org/mab/faq_br.shtml

line Brig

Sut mae mynd ati i ymestyn Gwarchodfa Biosffer Dyfi?

Mae angen i ni weld ai dyma yw dymuniad pobl leol! Os na, ni chaiff y Warchodfa Biosffer ei hymestyn.

Os yw'r ardalwyr am i hyn ddigwydd, yna bydd angen i ni gyfleu hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yna bydd gofyn i ni lenwi ffurflenni UNESCO (30 o dudalennau ohonynt) y bydd rhaid i'r Cynulliad wedyn eu trosglwyddo drwy gyfrwng llywodraeth y DU a Phwyllgor Dyn a'r Biosffer UNESCO y DU i UNESCO.

Er mwyn galluogi i bobl y cylch wneud penderfyniad deallus ar ymestyn Gwarchodfa Biosffer Dyfi, bydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn talu'n rhannol am weithiwr i roi gwybodaeth i randdeiliaid lleol a chanfod faint o gefnogaeth sydd i'r ymestyniad.

Nid oes gan Cyngor Cefn Gwlad Cymru unrhyw ddiddordeb uniongyrchol yn yr ymestyniad, a byddant yn cydweithio â rhanddeiliaid lleol er mwyn mesur y gefnogaeth mewn modd didwyll.

Os oes digon o gefnogaeth, bydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn cydweithio â rhanddeiliaid lleol er mwyn cwblhau ffurflenni UNESCO ac fe'u cyflwynir gyda'r dystiolaeth ynglyn â chefnogaeth leol i'r Cynulliad.

Mae cadeirydd Pwyllgor Dyn a'r Biosffer UNESCO y DU ac aelodau Pwyllgorau Cydgysylltu Rhyngwladol UNESCO a Phwyllgor Cynghori'r Gwarchodfeydd Biosffer oll wedi mynegi cefnogaeth lwyr i'r ymestyniad.

Os am wybod mwy am sut i ddynodi neu ymestyn Gwarchodfa Biosffer, ymwelwch â: http://www.unesco.org/mab/faq_br.shtml

line Brig

Fydd rhaid talu am hyn?

Ni fydd gofyn i bobl y cylch gyfrannu unrhyw arian yn sgîl ymestyn Gwarchodfa Biosffer Dyfi � oni bai eu bod yn dymuno!

Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac unrhyw gyrff eraill fydd yn dewis rhannu'r baich wnaiff dalu costau cyntaf cyflogi rhywun i greu ymwybyddiaeth a mesur y gefnogaeth sydd ar gyfer ymestyn Gwarchodfa Biosffer Dyfi.

Rhagwelir y bydd asiantaethau i'r llywodraeth megis Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn parhau i ddarparu peth cyllid ar gyfer tîm craidd bychan fydd yn cydlynu Cynllun Rheoli'r Biosffer gyda rhanddeiliaid lleol.

Ar ben hyn, rhanddeiliaid lleol fydd yn penderfynu ar faint eu cyfraniad at sefydlu mentrau fydd yn deillio o'r Warchodfa Biosffer.

Bydd rhai gweithgareddau megis cynlluniau marchnata yn talu eu costau eu hunain drwy gynyddu elw busnesau.

Hwyrach y bydd galw ar i weithgareddau eraill megis cynlluniau diwylliannol gasglu arian o ffynonellau eraill.

Mae Gwarchodfa Biosffer Dyfi yn gyfle i ni gyflawni llawer.

Ond, yn unol â phob cyfle, bydd y bendithion a ddaw yn ei sgîl i raddau helaeth yn dibynnu ar yr amser, yr ymdrech a'r adnoddau a gyfrennir gan y rhanddeiliaid.

line Brig

Pwy fydd yn talu am hyn?

Mae cynlluniau gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru i dalu'r rhan fwyaf o gost cyflogi rhywun i greu ymwybyddiaeth a mesur y gefnogaeth sydd ar gyfer ymestyn Gwarchodfa Biosffer Dyfi.

Rhagwelir y bydd asiantaethau i'r llywodraeth megis Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn parhau i ddarparu peth cyllid ar gyfer tîm craidd bychan fydd yn cydlynu Cynllun Rheoli'r Biosffer gyda rhanddeiliaid lleol.

Ar ôl hynny, bydd galw ar i unrhyw weithgareddau a drefnir i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw o'r Warchodfa Biosffer gasglu arian yn y modd arferol.

Y gobaith yw y bydd bodolaeth dynodiad UNESCO ar Fro Ddyfi yn gymorth mawr wrth chwilio am gefnogaeth.

line Brig

Sut fydd y Warchodfa Biosffer yn cydasio â chynlluniau eraill?

Dylai helpu i gydlynu mentrau eraill yn y cylch a'u cynorthwyo i weithio'n well dros bobl, economi ac amgylchedd Bro Ddyfi.

Bydd cynllun rheoli'r Warchodfa Biosffer yn ceisio dod â'r holl strategaethau a chynlluniau sy'n effeithio ar Ddyffryn Dyfi ynghyd.

Bydd yn llawer mwy na fframwaith ar gyfer rheoli ardaloedd dan warchodaeth a bydd yn ceisio gosod canllaw ar gyfer gweithgareddau pawb cysylltiedig i sicrhau eu bod i gyd yn gweithio i'r un perwyl � ffynnu drwy osod esiampl i'r byd o'r modd y gall dynoliaeth fyw mewn cytgord cynhyrchiol â byd natur.

Bydd yn bwysig i strategaethau datblygu allweddol (yn enwedig yn achos yr economi a thwristiaeth) cyrff statudol megis Cynghorau Ceredigion, Powys a Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yn ogystal â'r Strategaethau Cymunedol sy'n cwmpasu'r tair sir, fod yn cydredeg â chysyniad Gwarchodfa Biosffer.

Mae gan Ardal Twf Twristiaeth Dyffryn Dyfi (nad yw'n cynnwys Ceredigion) eisoes strategaeth ar gyfer sicrhau fod twristiaeth yn datblygu mewn modd cydnaws â hyn.

Rhan Powys o'r Warchodfa Biosffer estynedig arfaethedig yw ardal Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi (ymdrin ag anfanteisio gwledig).

Mae ei strategaeth yn dal i gael ei lunio ond ymddengys y bydd yn gydnaws â gweithgareddau Ardal Bontio.

Ni phenderfynwyd eto i ba raddau y bydd trefnwyr y Warchodfa Biosffer eu hunain yn gweithredu cynlluniau.

Mae'n bosib y byddant ond yn helpu i'r gymuned lunio strategaeth ac yna cynorthwyo grwpiau lleol eraill a busnesau i weithredu'r syniadau a gyflwynir.

line Brig

Pa gymorth all UNESCO ei gynnig?

Mae'r Gwarchodfeydd Biosffer i gyd yn aelodau o'r Rhwydwaith Byd-eang ac y mae UNESCO yn cydlynu amrywiaeth eang o weithgareddau i hwyluso rhannu profiadau a chydweithio er lles y rhwydwaith cyfan.

Mae gennym wahoddiadau agored gan Warchodfa Biosffer Entlebuch yn y Swistir a Gwarchodfa Biosffer y Rhön yn yr Almaen i anfon dirprwyaethau draw i ddysgu am eu llwyddiannau a'r sialensiau a wynebwyd.

Mae UNESCO yn cynnal nifer o weithluoedd a grwpiau gweithredu fydd yn datblygu cyfarwyddyd ac adnoddau ar gyfer Gwarchodfeydd Biosffer.

Bu cadeirydd y gweithlu ar Ddatblygu Econom�au o Safon mewn Gwarchodfeydd Biosffer yn annerch yng Nghynhadledd Biosffer Dyfi ym mis Mehefin 2004.

Yn yr un modd, mae rhaglen Dyn a'r Biosffer UNESCO yn hyrwyddo cydweithio ar draws hemisffer y gogledd drwy gyfrwng rhwydwaith EURO-MAB sy'n cysylltu Ewrop, Rwsia a Gogledd America.

Bydd modd cael cymorth a chyngor gan y rhwydwaith hwn pe ymestynnir Gwarchodfa Biosffer Dyfi.

Rhagor o wybodaeth am ddatblygu'r economi mewn Gwarchodfeydd Biosffer yn: http://www.unesco.org/mab/faq_br.shtml

Ceir mwy o wybodaeth am Warchodfa Biosffer Entlebuch yn: http://www.biosphaere.ch/

Rhagor o wybodaeth am Warchodfa Biosffer y Rhön ar gael yn: http://www.unesco.org/mab/ ac yn y cyfnodolyn yma: http://www.deh.gov.au/parks/biosphere/working/pubs/bionews-jan2003.pdf

Rhagor o wybodaeth am rwydwaith EURO-MAB ar gael yn: www.unesco.org/mab/

line Brig

 

 biosffer dyfi facebook page Hoffwch ni ar facebook

biosffer dyfi twitter feed Dilynwch ein ffrwd trydar