Beth yw'r manteision o gael statws Biosffer?

Mae manteision posibl statws Biosffer modern yn cynnwys:

  • Manteisio ar gymorth a chyngor gan UNESCO ac Ardaloedd Biosffer eraill ledled y byd
  • Cadw a gwella’r ardal fel lle gwych i fagu plant a chreu mwy o gyfleoedd iddynt fedru aros yma
  • Gosod mwy o werth ar ein hamgylchedd naturiol ac ar ddiwylliant yr iaith Gymraeg
  • Cynyddu gweithgaredd gwirfoddol mewn cadwraeth natur, er enghraifft mewn rheoli rhywogaethau ymledol neu trwy greu ‘coridorau bywyd gwyllt’.
  • Peirianweithiau newydd sy’n annog trafodaethau a chytundeb rhwng pobl sy’n berchen ar werthoedd a blaenoriaethau gwahanol
  • Economi leol sy’n fwy hunan-ddibynnol, yn llai dibynnol ar danwydd ffosil, gyda thwf sy’n cael ei yrru gan wybodaeth ac adnoddau lleol
  • Ardal sy’n fwy cynaliadwy; gyda’r trigolion a’r ymwelwyr yn dewis nwyddau a gynhyrchwyd yn lleol yn amlach, ac yn lleihau ein heffaith ar y byd
  • Defnyddio ‘brand’ UNESCO i hyrwyddo ansawdd cynnyrch amaethyddol a phrofiadau twristiaeth – yn y DG ac yn rhyngwladol

Ym Mawrth 2008, cyhoeddodd DEFRA adroddiad o ymchwil i “Botensial Gwarchodfeydd Biosffer i gyrraedd amcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y DU”. 

Fe’i seiliwyd ar bedwar astudiaeth achos, gan gynnwys Gogledd Dyfnaint.